Rhif y ddeiseb: P-05-1445 Teitl y ddeiseb: Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU Geiriad y ddeiseb: Mae Llywodraeth y DU wedi dileu’r dreth stamp ar gyfer y rheini sy’n prynu eiddo – am y tro cyntaf – o dan £425k yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth drwy leihau Treth Trafodiadau Tir i’r un gyfradd ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd nid oes cyfradd ffafriol ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru. Yn hytrach, dim ond cyfradd unffurf o lai na £225k ydyw am bob cartref a brynir yma. Gyda phrisiau eiddo yn codi'n gyflym, mae'n dod yn fwyfwy anodd dod o hyd i eiddo afon o dan drothwy Llywodraeth Cymru, sef £225k. Mae prynu cartref cyntaf wedi dod yn fwyfwy anodd i’r rheini sy’n gwneud am y tro cyntaf – gyda’r argyfwng costau byw presennol, a chyfraddau morgais yn codi – ac mae’n cael ei wneud hyd yn oed yn fwy anodd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, yn sgil peidio ag ychwanegu cymhelliant ychwanegol, fel y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud. Drwy beidio â chael gwared ar y dreth, hon bydd yn ychwanegu at bobl sy’n dal i orfod rhentu yng Nghymru, yn methu â chael mynediad i’r farchnad dai neu hyd yn oed yn prynu y tu allan i Gymru. Pam cyfyngu ar y cymorth a’r dewis i’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf yng Nghymru? Yn fy marn i, dylid cynnig cymaint o help â phosibl i roi pobl ar ben ffordd i brynu cartref. |
Ar 1 Ebrill 2018, disodlwyd treth dir y dreth stamp yng Nghymru gan y Dreth Trafodiadau Tir. Llywodraeth Cymru sy’n pennu cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir, ac Awdurdod Cyllid Cymru sy’n casglu ac yn rheoli'r dreth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae nifer o wahaniaethau yn dal i fod rhwng y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru a threth dir y dreth stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Rhaid i bobl sy’n prynu eiddo neu dir yng Nghymru dalu’r Dreth Trafodiadau Tir ar brisiau sy’n uwch na’r trothwy o £225,000. Nid oes unrhyw ryddhad treth i’r rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf. Y lefel a bennwyd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yw 6 y cant ar gyfer eiddo sydd â phris dros £225,000 hyd at £400,000, gan gynnwys y ffigur hwnnw.
Llywodraeth y DU sy’n pennu cyfraddau a bandiau treth dir y dreth stamp ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ar hyn o bryd, mae'r band 0 y cant yn berthnasol i eiddo neu dir sy’n costio hyd at £250,000. I’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf, y trothwy yw £425,000 ac ni fyddant yn talu treth dir y dreth stamp ar eiddo neu dir sy’n costio llai na hynny.
Mae trothwy’r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru yn uwch na phris cyfartalog prynu tŷ yng Nghymru. Yn ôl y Mynegai Prisiau gan Gofrestrfa Tir EF y DU ar gyfer Tai Cymru, ar gyfartaledd, roedd tŷ yn costio £211,000 ym mis Chwefror 2024, ar ôl gostwng 1.2 y cant yn y flwyddyn flaenorol. Ar gyfartaledd, gwnaeth person a oedd yn prynu am y tro cyntaf dalu £183,000 am ei gartref cyntaf.
Yn ôl Adolygiad Tai y DU ar gyfer 2024, gwelwyd bod straen amlwg iawn ar y farchnad perchnogaeth tai yn y DU gyda thrafodiadau yn gostwng 19 y cant rhwng 2022 a 2023. Yn ôl yr Adolygiad, mae pwysau costau byw a rhenti preifat cynyddol wedi effeithio ar allu’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf i gynilo ar gyfer blaendal. Er bod prisiau morgeisi cyfradd sefydlog wedi gostwng rywfaint, mae’r cyfraddau yn dal i fod llawer yn uwch nag oeddent dair blynedd yn ôl. Bu gostyngiad hirdymor yn nifer y morgeisi i bobl sy’n prynu am y tro cyntaf ac mae’r ffactorau hyn yn gwnaed y sefyllfa honno’n waeth. Yn 2023, darparwyd 12,600 o forgeisi i bobl a oedd yn prynu am y tro cyntaf yng Nghymru, o'i gymharu â 17,300 yn 2021 a 30,300 yn 2001.
Mae cyfraddau morgeisi wedi bod anwadal ar ddechrau 2024 oherwydd cystadleuaeth rhwng benthycwyr, ynghyd ag ansicrwydd ynghylch toriadau i'r gyfradd sylfaenol. Mae Banc Lloegr wedi awgrymu y gallai fod toriad posibl i'r gyfradd sylfaenol yr haf hwn, a fyddai’n effeithio’n gadarnhaol ar fforddiadwyedd morgeisi i’r rheini sy’n prynu am y tro cyntaf.
Ar ôl cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir, dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid, fod asesiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dangos bod rhyddhad ar gyfer y rheini sy’n prynu am y tro cyntaf yn aneffeithiol. Roedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dod i'r casgliad y byddai rhyddhad treth argyfer y rheini sy’n prynu am y tro cyntaf yn cynyddu prisiau tai heb arwain at fawr ddim o bryniannau ychwanegol.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir. Cyhoeddwyd crynodeb o’r adolygiad ym mis Chwefror 2023. Y prif ganfyddiad oedd:
“Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod absenoldeb rhyddhad ar gyfer prynwyr tro cyntaf wedi cael unrhyw effaith sylweddol ar fynediad i berchentyaeth yng Nghymru..”
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mathau eraill o gymorth ar gael ar gyfer y rheini sy’n prynu am y tro cyntaf:
§ Cymorth i Brynu: cynllun benthyciad ecwiti a rennir o hyd at 20 y cant o fenthyciad o gymharu a gwerth yr eiddo ar gyfer y rheini sydd â blaendal o 5 y cant, ar gartrefi newydd yn unig.
§ Prynu Cartref – Cymru: benthyciad ecwiti o 30 i 50 y cant o werth yr eiddo i bobl sy'n bodloni meini prawf penodol, i’w helpu i brynu eiddo. Nodir ar wefan Llywodraeth Cymru fod 17 o landlordiaid cymdeithasol yn rhan o’r cynllun yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £8.5 miliwn ar gael dros dair blynedd i gefnogi’r cynllun Prynu Cartref yn Nwyfor.
§ Rhanberchnogaeth – Cymru: perchnogaeth rhannol a rhentu rhannol, gyda'r gallu i gynyddu cyfran eich perchnogaeth hyd at berchnogaeth lawn (‘staircasing’ yn Saesneg). Cynigir y cynllun ar hyn o bryd gan chwe chymdeithas dai yng Nghymru, gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Gall landlordiaid cymdeithasol eraill gynnig eu cynlluniau eu hunain, nad ydynt wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
§ Rhentu i Berchnogi – Cymru: ar wefan Llywodraeth Cymru, mae’n dweud, er nad yw Rhentu i Berchnogi yn cael ei ariannu mwyach, mae rhai cartrefi yn dal i gael eu hadeiladu, ac felly gallent fod ar gael i ymgeiswyr newydd. Mae'r wefan yn nodi bod deg cymdeithas dai yn cymryd rhan yng Nghymru.
§ Hunanadeiladu Cymru: benthyciadau i ariannu hyd at 100 y cant o gostau adeiladu a 75 y cant o gostau tir ar gyfer cartrefi y mae pobl yn eu hadeiladu eu hunain/cartrefi sy’n cael eu hadeiladu’n bwrpasol. Gweinyddir y cynllun gan Fanc Datblygu Cymru ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |